Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, Cymru

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys yng Nghymru ym maes hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig, a safonau a labelu bwyd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


 

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]).

Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([2]), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004

2. Yn rheoliad 4(a) o Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004([3]), yn lle “European Union” rhodder “United Kingdom”.

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

3.(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006([4]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 2, yn y tabl—

(a)     yn y cofnod ar gyfer Erthygl 6(1) o Reoliad 852/2004, yn yr ail golofn, yn lle “ag unrhyw
ddeddfwriaeth arall yr UE neu unrhyw gyfraith genedlaethol arall sy’n gymwys” rhodder “â chyfraith y Deyrnas Unedig”;

(b)     yn y cofnod ar gyfer Erthygl 4(1) o Reoliad 853/2004, yn yr ail golofn, hepgorer “ac sydd wedi’u gweithgynhyrchu yn yr Undeb Ewropeaidd”;

(c)     hepgorer y cofnod ar gyfer Erthygl 8 o Reoliad 853/2004.

(3) Yn Atodlen 3, ym mharagraff 10, yn lle “mewn un neu ragor o ieithoedd y Gymuned” rhodder “yn Saesneg, neu yn Gymraeg ac yn Saesneg”.

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

4.(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “trydedd wlad”, yn lle “unrhyw wlad neu diriogaeth, heblaw Kalaallit Nunaat (Greenland), nad yw’n Wladwriaeth AEE gyfan neu’n rhan o Wladwriaeth AEE” rhodder “gwlad neu wladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig”.

(3) Yn lle rheoliad 4 rhodder—

4. Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer penodedig o Ewros i’w ddarllen fel y swm hwnnw wedi ei drosi i bunnoedd sterling gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid o GBP1 = EUR1.1413.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

5.(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009([6]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 4, yn lle’r Tabl rhodder—

 

Colofn 1

Awdurdod Cymwys

Colofn 2

Y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004

Yr Asiantaeth

Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 19(1) a (2), 24, 27, 28, 31(1) a (2)(f), a 54

Yr awdurdod bwyd anifeiliaid

Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1)

i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 27, 28, 31, a 54.

(3) Yn Atodlen 5, yn lle’r Tabl rhodder—

Colofn 1

Awdurdod Cymwys

Colofn 2

Y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004

Yr Asiantaeth

Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 14, 19(1) a (2), 24, 27, 28, 31, a 54

Yr awdurdod bwyd

Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1)

i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 27, 28, 31, a 54.

(4) Yn Atodlen 6, yn lle’r cofnod cyntaf yng Ngholofn 2 o’r Tabl rhodder—

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid a bwyd neu eu cynrychiolwyr roi hysbysiad digonol ymlaen llaw o amcangyfrif o’r dyddiad a’r amser y bydd y llwyth yn ffisegol yn cyrraedd y pwynt mynediad dynodedig ac o natur y llwyth yn y modd a nodir yn yr Erthygl honno (dogfen fynediad gyffredin i gael ei llenwi a’i throsglwyddo o leiaf un diwrnod gwaith ymlaen llaw) ac yn Erthygl 7 (dogfen fynediad gyffredin i gael ei llunio yn Saesneg, neu yn Gymraeg ac yn Saesneg).

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

6.(1) Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012([7]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 4(3), hepgorer “Cymunedol”.

(3) Yn rheoliad 6(1)—

(a)     hepgorer is-baragraff (a);

(b)     yn is-baragraff (b), yn lle “16(1)” rhodder “16”.

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

7.(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013([8]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Hepgorer rheoliad 15.

(3) Yn Atodlen 1—

(a)     yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;

(b)     yn Nhabl 2—

                            (i)    yn y cofnod ar gyfer Erthygl 21.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 22), yn yr ail golofn, yn lle “mewn iaith a ddeellir yn hawdd gan y prynwyr” rhodder “yn Saesneg, neu yn Gymraeg ac yn Saesneg”;

(c)     yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.2, yn yr ail golofn, yn lle “y Comisiwn” rhodder “yr Awdurdod”.

(4) Yn Atodlen 2, yn Nhabl 1—

(a)     yn y cofnod ar gyfer Erthygl 10, yn yr ail golofn, yn lle “restr yr Undeb” rhodder “y rhestr ddomestig”;

(b)     yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;

(c)     yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.

(5) Yn Atodlen 3, yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.5, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.

(6) Yn Atodlen 4, yn Nhabl 1—

(a)     yn y cofnod ar gyfer Erthygl 4, yn yr ail golofn, yn lle “rhestr yr Undeb” rhodder “y rhestr ddomestig”;

(b)     yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;

(c)     yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015

8.(1) Mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015([9]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2—

(a)     ym mharagraff (1)—

                            (i)    hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2003/40”;

                          (ii)    yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “deddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu” (“relevant bottled water legislation”) yw—

(a)   o ran Lloegr, Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Lloegr) 2007([10]);

(b)   o ran Gogledd Iwerddon, Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Gogledd Iwerddon) 2015([11]);

(c)   o ran yr Alban, Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Yr Alban) (Rhif 2) 2007([12]);;

                        (iii)    yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad ac eithrio’r Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnwys—

(a)   Beilïaeth Guernsey;

(b)   Beilïaeth Jersey;

(c)   Ynys Manaw.;

(b)     ym mharagraff (3), hepgorer “Cyfarwyddeb 2003/40,”.

(3) Yn rheoliad 3(1)—

(a)     yn is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddeb” hyd at y diwedd rhodder “rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012([13])”;

(b)     yn is-baragraff (d), yn lle “wlad heblaw Gwladwriaeth AEE” rhodder “drydedd wlad”.

(4) Yn rheoliad 4—

(a)     ym mharagraff (2)—

                            (i)    yn is-baragraff (b), yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb 2009/54” rhodder “o dan y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu”;

                          (ii)    hepgorer is-baragraff (c);

                        (iii)    yn is-baragraff (d)—

(aa)        yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE” rhodder “trydedd wlad”;

(bb)       yn lle paragraff (ii) rhodder—

                     (ii)  pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol a roddir gan awdurdod cyfrifol mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.;

(b)     hepgorer paragraff (3).

(5) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: ymadael â’r AEE a’r UE

4A.—(1) Mae’r dŵr a ganlyn wedi ei achredu, hynny yw mae’n cael ei drin at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai’n ddŵr mwynol naturiol a gydnabyddir gan yr Asiantaeth o dan reoliad 4(2)(d)(i)—

(a)   dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn yr UE;

(b)   dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yng Ngwlad yr Iâ;

(c)   dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn Norwy.

(2) Mae’r achrediad ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dŵr mwynol naturiol y mae is-baragraff (a), (b) neu (c) o’r paragraff hwnnw yn gymwys iddo hyd nes y dyddiad perthnasol y daw’r achrediad i ben.

(3) Yn achos dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn yr UE, os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod o leiaf un dŵr mwynol sefydledig a gydnabyddir yn y DU nad yw’n cael ei drin gan yr awdurdod cyfrifol mewn o leiaf un Aelod-wladwriaeth fel dŵr mwynol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC([14]), caiff Gweinidogion Cymru hysbysu’r Comisiwn fod yr achrediad y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1)(a) mewn perthynas â dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn yr UE, i beidio.

(4) Yn achos dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yng Ngwlad yr Iâ, os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod o leiaf un dŵr mwynol sefydledig a gydnabyddir yn y DU nad yw’n cael ei drin fel dŵr mwynol a gydnabyddir yng Ngwlad yr Iâ at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, caiff Gweinidogion Cymru hysbysu Awdurdod Bwyd a Milfeddygol Gwlad yr Iâ fod yr achrediad y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1)(b) mewn perthynas â dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yng Ngwlad yr Iâ, i beidio.

(5) Yn achos dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn Norwy, os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod o leiaf un dŵr mwynol sefydledig a gydnabyddir yn y DU nad yw’n cael ei drin yn Norwy fel dŵr mwynol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, caiff Gweinidogion Cymru hysbysu Awdurdod Diogelwch Bwyd Norwy fod yr achrediad y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1)(c) mewn perthynas â dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn Norwy, i beidio.

(6) Ni chaniateir rhoi hysbysiad o dan baragraff (3), (4) neu (5) cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd.

(7) Rhaid i’r dyddiad a bennir mewn hysbysiad a roddir o dan baragraff (3), (4) neu (5) fel y dyddiad y daw achrediad i ben fod o leiaf 6 mis ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad arno, gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad hwnnw arno.

(8) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi copi o unrhyw hysbysiad a roddir o dan baragraff (3), (4) neu (5) mewn modd sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn briodol er mwyn dwyn ei effaith, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, i sylw’r rhai hynny neu gynrychiolydd y rhai hynny, yng Nghymru, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr hysbysiad yn debygol o effeithio arnynt.

(9) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi o bryd i’w gilydd, mewn modd sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn briodol, restr o enwau y dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn yr UE, yng Ngwlad yr Iâ ac yn Norwy sy’n cael ei drin fel dŵr mwynol naturiol achrededig o dan baragraff (1) (“rhestr paragraff 9”).

(10) Pan roddir hysbysiad o dan baragraff (3), (4) neu (5), rhaid i Weinidogion Cymru ddiweddaru’r rhestr paragraff 9 cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y daw’r achrediad i ben.

(11) Mae’r rhestr paragraff 9 i’w thrin fel tystiolaeth derfynol bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol achrededig at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(12) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“member State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r UE fel y mae wedi ei gyfansoddi yn union ar ôl y diwrnod ymadael;

ystyr “Cyfarwyddeb 2009/54/EC” (“Directive 2009/54/EC”) yw Cyfarwyddeb 2009/54/EC fel y’i hymgorfforir yng nghytundeb yr AEE, ac fel yr oedd yn cael effaith, yn union cyn y diwrnod ymadael;

ystyr “dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yng Ngwlad yr Iâ” (“established Icelandic recognised natural mineral water”) yw dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o’r ddaear yng Ngwlad yr Iâ—

(a)   yr oedd ganddo, yn union cyn y diwrnod ymadael, statws dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, a

(b)   y mae’r gydnabyddiaeth honno yn parhau mewn grym ar ei gyfer;

ystyr “dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn y DU” (“established recognised UK natural mineral water”) yw dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o’r ddaear yn y Deyrnas Unedig—

(a)   yr oedd ganddo, yn union cyn y diwrnod ymadael, statws dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, a

(b)   y mae’r gydnabyddiaeth honno yn parhau mewn grym ar ei gyfer;

ystyr “dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn Norwy” (“established Norwegian recognised natural mineral water”) yw dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o’r ddaear yn Norwy—

(a)   yr oedd ganddo, yn union cyn y diwrnod ymadael, statws dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, a

(b)   y mae’r gydnabyddiaeth honno yn parhau mewn grym ar ei gyfer;

ystyr “dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn yr UE” (“established EU recognised natural mineral water”) yw—

(a)   dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o’r ddaear mewn unrhyw Aelod-wladwriaeth—

                       (i)  yr oedd ganddo, yn union cyn y diwrnod ymadael, statws dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, a

                      (ii)  y mae’r gydnabyddiaeth honno yn parhau mewn grym ar ei gyfer;

(b)   dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o’r ddaear mewn trydedd wlad—

                       (i)  yr oedd ganddo, yn union cyn y diwrnod ymadael, statws dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC ar ôl cael ei gydnabod gan unrhyw Aelod-wladwriaeth fel dŵr mwynol naturiol at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC ar sail tystysgrif (“tystysgrif Erthygl 1(2)”) o’r math y cyfeirir ato yn yr ail is-baragraff o Erthygl 1(2) o Gyfarwyddeb 2009/54/EC a ddyroddir gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad y’i hechdynnwyd ynddi,

                      (ii)  y mae’r gydnabyddiaeth honno yn parhau mewn grym ar ei gyfer, a

                     (iii)  y mae’r dystysgrif Erthygl 1(2) yn parhau i fod yn ddilys ar ei gyfer;

ystyr “dyddiad y daw’r achrediad i ben” (“accreditation cessation date”) yw’r dyddiad dod i ben a bennir mewn hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (3), (4) neu (5);

mae i “trydedd wlad” yr un ystyr ag a roddir i “third country” yng Nghyfarwyddeb 2009/54/EC.

(6) Yn rheoliad 24(1)(a), yn lle “bodloni gofynion Cyfarwyddeb 98/83 ac yn cydymffurfio’n benodol” rhodder “cydymffurfio”.

(7) Yn rheoliad 27A—

(a)     ym mharagraff (b), hepgorer “neu o Wladwriaeth AEE arall”;

(b)     ym mharagraff (c)—

                            (i)    yn lle “wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall” rhodder “drydedd wlad”;

                          (ii)    hepgorer “neu mewn Gwladwriaeth AEE arall”.

(8) Yn rheoliad 27B—

(a)     ym mharagraff (b)—

                            (i)    hepgorer “neu o Wladwriaeth AEE arall”;

                          (ii)    yn lle’r geiriau o “fel triniaeth sy’n cydymffurfio” i “fel y’i gweithredir” rhodder “o dan y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu sy’n gymwys”;

                        (iii)    hepgorer “neu’r Wladwriaeth AEE honno”;

(b)     ym mharagraff (c)—

                            (i)    yn lle “wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall” rhodder “drydedd wlad”;

                          (ii)    hepgorer “neu mewn Gwladwriaeth AEE arall”;

                        (iii)    yn lle’r geiriau o “Erthygl 5” i “ddŵr ffynnon” rhodder “y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu sy’n gymwys yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig”.

(9) Hepgorer rheoliad 33(4).

(10) Yn rheoliad 36(1)(b), yn lle “gwlad ar wahân i Wladwriaeth AEE” rhodder “trydedd wlad”.

(11) Yn Atodlen 1—

(a)     ym mharagraff 1, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), hepgorer “at ddibenion Erthygl 1 o
Gyfarwyddeb 2009/54”;

(b)     yn Rhan 2, yn y pennawd, yn lle “gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE” rhodder “trydedd wlad”;

(c)     ym mharagraff 5, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a)—

                            (i)    yn lle “gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE” rhodder “trydedd wlad”;

                          (ii)    hepgorer “at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54”.

(12) Yn Atodlen 10, ym mharagraff 1(1), yn lle “ag Atodiad III i Gyfarwyddeb 98/83 a’r” rhodder “â’r”.

(13) Yn Atodlen 11, ym mharagraff 1, yn lle “ag Atodiad III i Gyfarwyddeb 2013/51 a’r” rhodder “â’r”.

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

9.(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016([15]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 7(2)—

(a)     yn is-baragraff (a), hepgorer y geiriau o “, fel y’i darllenir” hyd at y diwedd;

(b)     yn is-baragraff (c), yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod Diogelwch Bwyd”.

(3) Yn rheoliad 10(2)(d), yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod Diogelwch Bwyd”.

(4) Yn rheoliad 13(2)—

(a)     hepgorer is-baragraff (a);

(b)     yn is-baragraff (b), yn lle “Comisiwn” rhodder “awdurdod priodol”.

(5) Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen 1 newydd a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Rheoliadau Bwydydd Newydd (Cymru) 2017

10.(1) Mae Rheoliadau Bwydydd Newydd (Cymru) 2017([16]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 1, yn y tabl—

(a)     yn y cofnod ar gyfer Erthygl 6(2) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 24 a 35(2), yn yr ail golofn, yn lle “rhestr yr Undeb” rhodder “y rhestr”;

(b)     yn y cofnod ar gyfer Erthygl 25, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn Ewropeaidd” rhodder “Awdurdod Diogelwch Bwyd”.

 

 

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 


ATODLEN                             Rheoliad 9(5)

Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 1 i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

Atodlen 1    Rheoliad 12

Darpariaethau Penodedig Rheoliad 767/2009

Y ddarpariaeth benodedig

Y pwnc

Erthygl 4(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 4(3) ac Atodiad 1

Gofynion diogelwch cyffredinol a gofynion eraill i’w bodloni pan osodir bwyd anifeiliaid ar y farchnad neu pan y’i defnyddir.

Erthygl 5(1)

Estyn y gofynion mewn perthynas â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd mewn deddfwriaeth arall i fod yn gymwys i fwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd.

Erthygl 5(2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)

Rhwymedigaeth ar berson sy’n gyfrifol am labelu i roi gwybodaeth ar gael i’r awdurdod cymwys.

Erthygl 6(1), fel y’i darllenir gydag Atodiad 3

Gwaharddiad neu gyfyngiad ar farchnata neu ddefnyddio deunyddiau penodol at ddibenion maeth anifeiliaid.

Erthygl 8

Rheolaethau ar y lefelau o ychwanegion mewn bwydydd anifeiliaid.

Erthygl 9

Rheolaethau ar farchnata bwydydd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol.

Erthygl 11, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3), Atodiadau 2 a 4 a’r Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid

Rheolau ac egwyddorion sy’n llywodraethu labelu a chyflwyno bwyd anifeiliaid.

Erthygl 12(4) a (5)

Dynodi’r person sy’n gyfrifol am labelu a rhwymedigaethau a chyfrifoldebau’r person hwnnw.

Erthygl 13(1), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)

Amodau cyffredinol ar wneud honiad ynghylch nodweddion neu swyddogaethau bwyd anifeiliaid wrth ei labelu neu ei gyflwyno.

Erthygl 13(2) a (3), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)

Amodau arbennig sy’n gymwys i honiadau ynghylch gwneud y gorau o’r maeth ac ynghylch cynnal neu warchod yr amodau ffisiolegol.

Erthygl 14(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)

Y gofynion ar gyfer cyflwyno’r manylion labelu mandadol.

Erthygl 15, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac 21 a chydag Atodiadau 6 a 7

Gofynion labelu mandadol cyffredinol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd.

Erthygl 16, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac 21 a chydag Atodiadau 2 a 5 a’r Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid

Gofynion labelu penodol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid.

Erthygl 17(1) a (2) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac 21 a chydag Atodiadau 2, 6 a 7

Gofynion labelu penodol ar gyfer bwydydd anifeiliaid cyfansawdd.

Erthygl 18, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)

Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol (bwydydd anifeiliaid deietegol).

Erthygl 19, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)

Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes.

Erthygl 20(1), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3) a chydag Atodiad 8

Gofynion ychwanegol ar gyfer labelu bwyd anifeiliaid nad yw’n cydymffurfio, megis bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys deunyddiau halogedig.

Erthygl 23

Gofynion sy’n ymwneud â phecynnu a selio deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd ar gyfer eu rhoi ar y farchnad.

Erthygl 24(2)

Gofyniad, os defnyddir enw deunydd bwyd anifeiliaid sydd wedi ei restru yn y Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid, fod rhaid cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y Catalog.

Erthygl 24(3)

Rhwymedigaeth ar berson sy’n rhoi ar y farchnad am y tro cyntaf ddeunydd bwyd anifeiliaid nad yw wedi ei restru yn y Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid i hysbysu am ei ddefnydd.

 



([1])           2018 p. 16.

([2])           OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([3])           O.S. 2004/3279, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3254 (Cy. 247) ac O.S. 2011/1043; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([4])           O.S. 2006/31 (Cy. 5), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043 ac O.S. 2016/845 (Cy. 214); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([5])           O.S. 2007/3462 (Cy. 307), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043; mae offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([6])           O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([7])           O.S. 2012/2705 (Cy. 291), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. 

([8])           O.S. 2013/2591 (Cy. 255), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([9])           O.S. 2015/1867 (Cy. 274), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/935 (Cy. 229).

([10])         O.S. 2007/2785. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2009/1598, O.S. 2010/433, O.S. 2011/451, O.S. 2014/1855 ac O.S. 2018/352.

([11])         Rh.St. 2015/365. Diwygiwyd gan Rh.St. 2017/201. 

([12])         O.S.A. 2007/483. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.A. 2009/273, O.S.A. 2010/89 ac O.S. 2011/1043.

([13])         O.S. 2012/1916.

([14])         OJ Rhif L 164, 26.6.2009, t. 45.

([15])         O.S. 2016/386 (Cy. 120), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([16])         O.S. 2017/1103 (Cy. 279).